Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, iʼw gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Gorchymyn)

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”).  Mae Rhan 2 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau iʼr Cyngor mewn perthynas â phersonau y maeʼn ofynnol iddynt gofrestru yn y gofrestr y maeʼr Cyngor yn ei chynnal yn unol ag adran 9 oʼr Ddeddf honno (“y Gofrestr”).

Maeʼr categorïau o bersonau cofrestredig wedi eu nodi yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer ym mharagraff 2 oʼr Atodlen honno i ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru. Yn unol â hynny, maeʼr Gorchymyn hwn yn diwygio Tabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i ychwaneguʼr categorïau a ganlyn o berson cofrestredig (Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn)—

(a)      gweithiwr ieuenctid;

(b)      gweithiwr cymorth ieuenctid; ac

(c)      ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

Effaith Rhan 2 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor.  Fodd bynnag, mae Rhan 2 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn) (erthygl 3(1)).

Mae erthygl 3(2) yn nodi eithriad iʼr cyfyngiad yn erthygl 3(1); maeʼr eithriad hwnnw yn gymwys pan fo person yn symud iʼr DU o aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweithio fel gweithiwr ieuenctid ar sail dros dro ac achlysurol. Nid ywʼr person hwnnw yn ddarostyngedig iʼr gofyniad i gofrestru (“yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE”). Maeʼr ddarpariaeth hon yn sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2 o Reoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.

Effaith Rhan 3 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gwirfoddol ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid, fel y caiff unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid gofrestru âʼr Cyngor.  Fodd bynnag, mae Rhan 3 hefyd yn darparu bod rhaid i berson gofrestru âʼr Cyngor os ywʼn dymuno darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol.  Mae erthygl 5(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 5(1).

Effaith Rhan 4 oʼr Gorchymyn hwn yw creu system cofrestru gorfodol ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, fel bod rhaid i unrhyw berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (fel yʼi diffinnir yn y Gorchymyn hwn), gofrestru âʼr Cyngor (erthygl 7(1)). Nid oes darpariaeth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gofrestruʼn wirfoddol.

Maeʼr tabl diwygiedig ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 yn disgrifio ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel person syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith.  Corff dysgu seiliedig ar waith yw corff a gyllidir gan Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau dysgu seiliedig ar waith.  Gellir gweld rhestr o gyrff oʼr fath ar wefan Llywodraeth Cymru yn  www.dysgu.llyw.cymru.

Maeʼr disgrifiad o ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys nifer o rolau proffesiynol syʼn ymwneud â chyflenwi dysgu seiliedig ar waith.  O fewn y proffesiwn, adwaenir y rolau hyn yn aml fel “mentoriaid”, “hyfforddwyr” ac “aseswyr”. Mae erthygl 7(2) yn darparu bod yr esemptiad i weithwyr dros dro ac achlysurol oʼr UE hefyd yn gymwys iʼr cyfyngiad yn erthygl 7(1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, iʼw gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

Gwnaed                                               2016

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi, ar ôl ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft oʼr Gorchymyn hwn hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.(1) Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.

(2) Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yw corff y darperir adnoddau ariannol iddo yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000([2]) mewn cysylltiad â darparu dysgu seiliedig ar waith;

ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —

(a)      awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)      corff llywodraethu ysgol;

(c)      sefydliad addysg bellach yng Nghymru;

(d)      corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015([3]).

RHAN 2

GWEITHWYR IEUENCTID

Gweithwyr ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill

3.(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.

Gweithwyr ieuenctid: y gofyniad i gofrestru

4.(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.

(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 3

GWEITHWYR CYMORTH IEUENCTID

Gweithwyr cymorth ieuenctid: cymwysterau a gofynion eraill

5.(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.

Gweithwyr cymorth ieuenctid: y gofyniad i gofrestru

6.(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 4

YMARFERWYR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH

Y gofyniad i gofrestru

7.(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).

RHAN 5

DIWYGIADAU I DDEDDF 2014

Diwygiadau i Ddeddf 2014

8.(1) Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).

(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—

 

“Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

(a)      yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(b)      fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

(a)      yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

(b)      fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.”

(3) Yn lle paragraff 3 rhodder—

3. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir— 

(a)   ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

(b)   er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

“gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

(a)   a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

(b)   syʼn hybu—

                       (i)  datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

                      (ii)  ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

“gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

(a)   cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

(b)   asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(a)   ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)   ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.”

 

 

 

 

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

ATODLEN 1 erthygl 3

Gweithwyr Ieuenctid

RHAN 1

Cymwysterau

Cymwysterau gweithiwr ieuenctid

1. Nodir y cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn y Rhan hon fel a ganlyn—

(a)      mae Tabl 1 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Nghymru;

(b)      mae Tabl 2 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr; 

(c)      mae Tabl 3 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn yr Alban;

(d)      mae Tabl 4 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Ngogledd Iwerddon; 

(e)      mae Tabl 5 yn nodi cymwysterau a ddyfernir yn y Deyrnas Unedig gan gyrff dyfarnu eraill.

 

Tabl 1: Cymru

Cymwysterau o ran Cymru

Corff dyfarnu

Diploma addysg uwch mewn addysg gymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

Diploma ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

 

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

Prifysgol Glyndŵr

 

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

 

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

 

Prifysgol De Cymru

 

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

 

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Diploma ôl-raddedig mewn proffesiynau cymunedol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Gradd israddedig mewn addysg gymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

Prifysgol Glyndŵr

 

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

 

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

 

Prifysgol De Cymru

 

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

 

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

 

 

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (cyfiawnder ieuenctid)

Prifysgol De Cymru

 

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (chwaraeon)

Prifysgol De Cymru

 

Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd

Gradd ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

 

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol

Prifysgol Glyndŵr

 

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Coleg y Drindod, Caerfyrddin

 

Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant

Gradd ôl-raddedig yn y proffesiynau cymunedol

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Tabl 2: Lloegr

Cymwysterau o ran Lloegr

Corff dyfarnu

Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymuned

Bristol Polytechnic

 

John Moores University

 

University of the West of England

Diploma graddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

 

St Martin’s College

Diploma graddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid

Oasis College

 

Oasis Trust

Diploma graddedig mewn gwaith datblygu ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

 

St Martin’s College

Diploma graddedig mewn gwaith ieuenctid

Sheffield Hallam University

Diploma mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid

University of Manchester

Diploma ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid

Goldsmiths College, University of London

 

Turning Point College

Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

University of Huddersfield

Diploma ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol

De Montfort University

 

Manchester Metropolitan University

 

Leicester Polytechnic

Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

Bradford College

 

Brunel University

 

College of St Mark & St John Plymouth

 

Leeds Beckett University

 

Leeds Metropolitan University

 

Manchester Metropolitan University

 

University College Birmingham

 

University College Plymouth, St Mark & St John

 

University of Cumbria

 

University of East London

 

University of St Mark & St John

Diploma ôl-raddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

Moorlands College

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

University of Gloucestershire

 

University of Teesside

 

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Bradford College

 

Brunel University

 

Leeds Beckett University

 

Leeds Metropolitan University

 

Newman University

 

Manchester Metropolitan University

 

St Martin’s College

 

University College Birmingham

 

University of Cumbria

 

University of East London

 

University of St Mark & St John

 

College of St Mark & St John Plymouth

 

University College Plymouth, St Mark & St John

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol

University of Teesside

Gradd israddedig mewn astudiaethau cymunedol ac ieuenctid

Bulmershe College of Higher Education

 

University of Reading

Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid

University of Durham

Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid cymhwysol

University of Derby

 

University of Manchester

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol

Sunderland University

Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid

University of Cumbria

 

St Martin’s College

Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol

University of Cumbria

 

University of Sunderland

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid

Ruskin College, Oxford

Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol

De Montfort University

 

Leicester Polytechnic

Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth, gwaith ieuenctid a gweinidogaeth

Nazarene Theological College

Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

Moorlands College

Gradd israddedig mewn gwaith a chymorth ieuenctid integredig

Middlesex University

Gradd israddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid

Oasis College

 

Oasis Trust

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid

Brunel University

 

Coventry University

 

London Metropolitan University

 

Middlesex University

 

University of Brighton

 

University of Chester

 

University of Cumbria

 

University of Gloucestershire

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Cristnogol

University of Chester

Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith ieuenctid a chymunedol

Sunderland University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Anglia Polytechnic University

 

Anglia Ruskin University

 

Bradford College

 

Brunel University

 

Leeds Metropolitan University

 

Manchester Metropolitan University

 

Ruskin College, Oxford

 

Sheffield Hallam University

 

St Helens College

 

St Martin’s College

 

Thames Polytechnic

 

University College Plymouth, St Mark & St John

 

University of Bedfordshire

 

University of Bolton

 

University of Chichester

 

University of Cumbria

 

University of East London

 

University of Greenwich

 

University of Huddersfield

 

University of St Mark & St John

 

University of Worcester

 

York St John University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda llwybrau Cristnogol, Mwslimaidd a seciwlar

Newman University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol

De Montfort University

 

Leeds Beckett University

 

Leeds Metropolitan University

 

University of Cumbria

 

University of Hull

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymunedol

University of Teesside

Gradd israddedig mewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedol

University of Worcester

Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau (gwaith ieuenctid)

University of Derby

Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid

Goldsmiths College, University of London

Gradd ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid

Goldsmiths College, University of London

Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol)

University of Huddersfield

Gradd ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol

De Montfort University

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

University of Gloucestershire

 

University of Teesside

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

College of St Mark & St John

 

Edgehill University

 

Liverpool Hope University

 

University College Plymouth, St Mark & St John

 

Newman University

 

University of Durham

 

University of Hull

 

University of Northampton

 

University of St Mark & St John

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol

University of Teesside

Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Brunel University

Tabl 3: yr Alban

Cymwysterau o ran yr Alban

Corff dyfarnu

Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol

Northern College of Education

 

Moray House Institute of Education

 

University of Aberdeen

 

University of Edinburgh

Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol 

Northern College of Education

 

University of Aberdeen

 

University of Dundee

 

University of Glasgow

Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol gyda diwinyddiaeth gymhwysol

International Christian College

Diploma mewn addysg gymunedol  

Moray House Institute of Education

 

University of Edinburgh

Diploma mewn addysg oedolion ac addysg barhaus

University of Glasgow

Gradd israddedig mewn addysg gymunedol

Jordanhill College of Education

 

Northern College of Education

 

Moray House Institute of Education

 

University of Aberdeen

 

University of Edinburgh

 

West of Scotland University

 

University of Strathclyde

Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedol

University of Dundee

Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol

University of Glasgow

Gradd israddedig mewn dysgu a chyfranogi cymunedol

West of Scotland University

Gradd israddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol

University of Glasgow

 

Northern College of Education

 

University of Aberdeen

 

University of Dundee

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid

Edinburgh Napier University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid gyda diwinyddiaeth gymhwysol

International Christian College

Gradd ôl-raddedig mewn addysg gymunedol   

Moray House Institute of Education

 

University of Edinburgh

Gradd ôl-raddedig mewn addysg oedolion ac addysg barhaus

University of Glasgow

Tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gymunedol

Jordanhill College of Education

 

Moray House Institute of Education

 

Northern College of Education

 

University of Aberdeen

 

University of Edinburgh

 

University of Strathclyde

 

West of Scotland University

Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid

Jordanhill College of Education

 

Moray House Institute of Education

 

University of Edinburgh

 

University of Strathclyde

Tabl 4: Gogledd Iwerddon

Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon

Corff dyfarnu

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol

University of Ulster

 

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol

University of Ulster

Tabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig

 Cymwysterau

Corff dyfarnu

Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol

YMCA George Williams College

Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol (gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol)

YMCA George Williams College

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid

Open University

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol

Institute for Children Youth and Mission

Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol

Centre for Youth Ministry

 

Institute for Children Youth and Mission

Gradd israddedig mewn gwaith ysgolion, ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol

Institute for Children, Youth and Mission

Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc/gwaith ieuenctid

Open University

Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol

YMCA George Williams College

Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol

YMCA George Williams College

RHAN 2

Gofynion Eraill

Gofynion eraill

2. Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—

(a)      os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982([4]) (gweler rheoliad 13), neu

(b)      os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).

 

                    ATODLEN 2          erthygl 5

Gweithwyr Cymorth Ieuenctid

RHAN 1

Cymwysterau

Dehongli

1. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “CCEA” (“CCEA”) yw Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon y parheir â’i fodolaeth drwy erthygl 73 o Orchymyn 1998;

ystyr “Cymwysterau Cymru” (“Qualifications Wales”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Deddf 2015;

ystyr “Deddf (Yr Alban) 1996” (“the 1996 (Scotland) Act”) yw Deddf Addysg (Yr Alban) 1996([5]);

ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009([6]);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015([7]);

ystyr “Gorchymyn 1998” (“the 1998 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998([8]);

ystyr “Ofqual” (“Ofqual”) yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf 2009;

ystyr “SQA” (“SQA”) yw Awdurdod Cymwysterau’r Alban a sefydlwyd o dan adran 1 Deddf (Yr Alban) 1996.

Cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid

2. Mae paragraffau 2 i 5 yn nodi’r cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid.

Cymru

3.(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2) Y cymwysterau yw—

(a)      dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(b)      tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(c)      tystysgrif Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(d)      diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid.

Lloegr

4.(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf 2009 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw. 

(2) Y cymwysterau yw—

(a)      tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;

(b)      dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(c)      tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;

(d)      tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(e)      dyfarniad Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;

(f)       dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(g)      tystysgrif Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;

(h)      diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(i)       dyfarniad Lefel 4 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf.

Yr Alban

5.(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan yr SQA, neu unrhyw gorff a gymeradwyir gan yr SQA o dan adran 2(1) o Ddeddf (yr Alban) 1996 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2) Y cymwysterau yw—

(a)      SVQ 2 mewn gwaith ieuenctid;

(b)      SVQ 3 mewn gwaith ieuenctid;

(c)      SVQ 3 mewn cyfiawnder ieuenctid.

Gogledd Iwerddon

6.(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan y CCEA, neu unrhyw gorff a gydnabyddir gan y CCEA o dan Ran 8 o Orchymyn 1998 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.

(2) Y cymwysterau yw—

(a)      dyfarniad Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(b)      dyfarniad Lefel 2 mewn deall rôl y cyngor ieuenctid;

(c)      tystysgrif Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(d)      tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(e)      diploma Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(f)       dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;

(g)      tystysgrif Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig;

(h)      tystysgrif Lefel 3 mewn gweithwyr cefnogi cymheiriaid - theori ac ymarfer.

RHAN 2

Gofynion Eraill

7. Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—

(a)      os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu

(b)      os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).

 



([1])   2014 dccc 5.

([2])   2000 p. 21.

([3])   O.S. 2015/2059.

([4])   O.S. 1982/106 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 ac O.S. 1989/329. Dirymwyd O.S. 1982/106 gan O.S. 1989/1319.

([5])   1996 p. 43.

([6])   2009 p. 22.

([7])   2015 dccc 5.

([8])   O.S. 1998/1759  (G.I. 13) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1915 (N.I. 11).